Sarah Eirwen JonesPARRYMawrth 26ain, 2025 yn dawel yng nghwmni ei theulu yng Nghartref Plas Gwilym, Penygroes (gynt o 25 Hafod y Gest a 28 New Street, Porthmadog) yn 94 oed. Priod gariadus y diweddar Will a mam arbennig Morfudd a Gareth. Mam yng nghyfraith Robert a Jane. Nain a ffrind mynwesol i Dyfed, Carwyn, Awel, Cari, Elan, Llio, Thomas, David a Lois. Nain nain orau yn y byd i Cian, Nel a Gwenlli, Cai, Owen, Nisien, Gethin, Elain, Wiliam a Tomos. Ffrind agos a charedig i Karen, Tak, Neil, Lyndon, Kym a Kate. Chwaer annwyl y diweddar Eleanor, Megan, Enid a Donald. Yr olaf i'n gadael o deulu 'Arwel', Botwnnog.
Gwasanaeth cyhoeddus yng Nghapel Peniel, Tremadog, ddydd Mercher, Ebrill I6eg am 1.30 y prynhawn ac yna i ddilyn ym Mynwent Bethel.
Blodau'r teulu yn unig, ond derbynnir rhoddion yn ddiolchgar tuag at drigolion Plas Gwilym a Hafod y Gest drwy law yr ymgymerwyr.
Heol Dulyn, Tremadog, Gwynedd LL49 9RH 01766 512091 post@pritchardgriffiths.co.uk
Keep me informed of updates
Leave a tribute for Sarah